Fel Cwmni Cynllunio Ariannol preifat, rydym yn gallu cynnig atebion unigol i'n cleientiaid heb ymyrraeth gan 'brif swyddfa', sydd ddim bob amser yn rhoi anghenion y cleient yn gyntaf efallai. Gan ein bod wedi ein hawdurdodi'n uniongyrchol gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rydym bob amser yn gallu rhoi anghenion ein cleientiaid o flaen ein hanghenion ni ein hunain a thrwy hynny feithrin perthynas sefydlog, hirdymor a buddiol i'r naill ochr a'r llall.
Mae bod yn berchen ar y busnes yn ein galluogi ni i elwa'n bersonol o'n hethos sydd â'i ffocws ar y cleient. Rydym yn cynnig gwasanaeth personol iawn ac yn credu bod rhaid i chi fod eisiau helpu pobl er mwyn bod yn gynlluniwr ariannol llwyddiannus. Mae hynny'n golygu mynd yr ail filltir, hyd yn oed os nad ydych chi yn bersonol yn gallu cynnig yr ateb. Rydym ni wedi defnyddio ein blynyddoedd lawer o brofiad i ddewis yr elfennau gorau o'r diwydiant a'u casglu'n un pecyn er budd ein cleientiaid, yn cynnwys partneriaid allanol pan fo angen.
Mae'r gred ei bod dal yn bosibl cynnig cyngor ariannol proffesiynol o safon uchel a gwneud gwaith cynllunio ariannol o'r fath drwy roi opsiwn i'r cleient o dalu ffi, comisiwn neu gyfuniad o'r ddau, yn eithriadol bwysig i ni. Byddwn hefyd yn gweithio ar sail trafodion os yw hynny'n well gan ein cleientiaid.