Os am ddod yn gyfoethog dros nos, mae'n bur debyg y bydd rhaid i chi ennill y loteri. Er hynny, nid yw hwn yn gynllun i'r mwyafrif helaeth, dim ond breuddwyd lwyddiannus i'r lleiafrif.
Dylid seilio penderfyniadau buddsoddi ar ddadansoddi ac ar synnwyr cyffredin yn hytrach nag emosiwn. Fel rheol, mae dadansoddiadau a seilir ar ffeithiau ac ar arsylwi gwrthrychol yn arwain at well penderfyniadau buddsoddi na greddf. Ond mae gan synnwyr cyffredin rôl i'w chwarae hefyd. Mae buddsoddiadau sy'n edrych fel rhai rhy dda i fod yn wir yn fuddsoddiadau o'r fath fel rheol.
Drwy reoli cyfoeth wrth gynllunio'n ariannol, byddwch mewn gwell sefyllfa i wybod pa elw yn union rydych chi ei angen ar eich buddsoddiad er mwyn cael y bywyd rydych chi ei eisiau. Bydd yr ateb yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar eich amgylchiadau personol chi ond mae gennym ni opsiynau buddsoddi sy'n amrywio o'r rhai sy'n dymuno gwarchod eu cyfoeth i'r rhai sy'n dymuno creu mwy. Wrth reswm, byddwn bob amser yn ceisio gwneud eich buddsoddiadau chi yn rhai mor effeithlon ag y bo modd o ran treth.
Nid yw ystyried ble i roi'r cynilion rydych chi wedi gweithio'n galed i'w hennill, neu eich etifeddiaeth, wedi bod yn benderfyniad hawdd erioed. Waeth pa mor uchel neu isel yw cyfraddau llog, yr hyn ddylech chi ei gadw mewn cof bob amser yw chwyddiant. Dyma'r elfen unigol fwyaf dinistriol wrth i chi gynilo ar gyfer y dyfodol. Felly oni bai fod yr elw ar eich cynilion yn uwch na chwyddiant, mewn realiti, rydych chi'n colli arian. Ychydig iawn o gyfnodau sydd wedi bod yn ddiweddar lle mae cadw arian parod wedi arwain at elw uwch na chwyddiant.
Dylech fod â chronfa o arian parod wrth gefn bob amser, ar gyfer yr argyfyngau bychain hynny, a'r rhai ychydig bach mwy efallai, y mae bywyd yn eu taflu atoch, ac mae hyn yn ychwanegol at eich gofynion byw o ddydd i ddydd. Ond wedi gofalu am hynny, beth ddylech chi ei wneud â'r gweddill.
Yr unigolyn fydd yn gwneud y penderfyniad ynghylch beth ddylid buddsoddi ynddo, boed yn fondiau, eiddo, cyfranddaliadau, deunyddiau, yn rhai caled fel aur, arian, copr ac ati neu'n feddal, fel grawn, ffa soia, coffi ac ati, a bydd hyn yn dibynnu ar y modd y mae'n gallu goddef amrywiadau yn eu gwerth. Un rheol euraid yw peidio byth â rhoi eich holl arian mewn un math o fuddsoddiad.
I ddod o hyd i'r buddsoddiad priodol i chi ac i'ch amgylchiadau, llenwch y ffurflen ymholiadau.
Os oes gennych chi ddigon am oes eisoes, yna pam cymryd risg i wneud mwy. Mae'n siwr mai rhoi'r rhan fwyaf i'r dyn treth fyddwch chi yn y diwedd beth bynnag. Ar gyfer y cleientiaid hyn, byddwn yn ceisio creu elw gwell na chwyddiant yn sicr, ond nid yn sylweddol uwch.
Yn ôl y diffiniad, hwn yw'r maes gyda'r risg buddsoddi mwyaf. Gallwn greu portffolios a fydd yn buddsoddi mewn metalau gwerthfawr, cyfranddaliadau newydd yn y farchnad a llawer mwy.
Oes arnoch chi angen i'r incwm fod yn rheolaidd i helpu gyda chostau o ddydd i ddydd, neu'n achlysurol i helpu gyda chynnal eich ffordd o fyw. Mae'r gwahaniaeth yn bwysig oherwydd gall effeithio ar faint o dreth fyddwch chi'n ei thalu.
Am ragor o wybodaeth, llenwch ein ffurflen gysylltu.
Po fwyaf yw'r elw rydych chi eisiau ei gael o'ch cynilion, y mwyaf wrth gwrs yw'r risg fyddwch yn ei chymryd wrth fuddsoddi.
Rwy'n siwr eich bod wedi clywed yr ymadrodd 'gall gwerth eich buddsoddiadau godi yn ogystal â gostwng'. Wel, mae hyn yn wir am bob buddsoddiad, o'r gyfradd llog rydych yn ei derbyn ar eich arian parod i werth eich eiddo neu eich portffolio o gyfranddaliadau. Y pethau rydym ni'n chwilio amdanynt wrth gynghori ein cleientiaid yw am faint o amser maen nhw'n dymuno buddsoddi, pa elw maen nhw ei angen i gyrraedd eu nodau ariannol a beth yw eu sefyllfa ariannol gyffredinol.
Wedi'r cwbl, efallai nad yw buddsoddiad sy'n colli £10,000 yn y byr dymor yn arwyddocaol iawn i rywun gyda llawer o arian ond, os yw eich adnoddau'n gyfyngedig, yna bydd hyn o bryder mawr iawn wrth gwrs. Mae'n sicr yn wir y bydd yr elw posibl yn fwy wrth i chi fuddsoddi eich arian am gyfnod hwy, a hefyd mae'n well o ran adfer wedi amrywiadau tymor byr mewn gwerth.
Dim ond i fuddsoddwyr gwerth net uchel ardystiedig neu fuddsoddwyr soffistigedig mae buddsoddiadau o'r natur yma'n addas. O'r herwydd, mae'r rheolau ynghylch eu hyrwyddo'n llym iawn a dim ond wedi i chi lenwi un o'r atodiadau a'i anfon atom ni y byddwn yn darparu manylion i chi.
Dim ond ar gyfer y rhai sydd eisiau cael rhywbeth nad yw ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol mae'r gwasanaeth arbenigol hwn. Ni fyddwn byth yn darparu manylion yn ein gwefan na thros y ffôn. Os ydych chi angen rhagor o fanylion, llenwch y ffurflen gwerth net uchel neu'r ffurflen buddsoddwr soffistigedig.
Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r gwaith o hyrwyddo'r math yma o fuddsoddiad yn llym.
Peidiwch â chymryd unrhyw risg ddiangen gyda'ch cyfalaf os mai'r cyfan rydych chi angen ei wneud yw cadw gyda chwyddiant.
Peidiwch byth â rhoi eich arian i gyd mewn un buddsoddiad, boed yn eiddo, arian parod, stociau a chyfranddaliadau, giltiau, deunyddiau ac ati. Mae'r risg yn llawer rhy uchel i bawb ond y buddsoddwyr mwyaf soffistigedig. Gall portffolio buddsoddi sydd wedi'i rannu'n ddoeth yn wahanol fuddsoddiadau roi popeth sydd arnoch ei angen i chi, o fyw eich bywyd heddiw i wneud yn siwr bod yfory'n ddiogel yn ariannol.
Peidiwch â bod yn farus, ceisiwch ddod yn gyfoethog yn araf deg. Bydd elw is yn rheolaidd yn arwain at well elw ar eich cyfalaf yn y tymor hir fel rheol - ac mae hynny'n well na digonedd o arian un funud a dim y funud nesaf.
Dylech ganolbwyntio ar greu cyfoeth a gwarchod cyfalaf yn y tymor hir. Mae gwerth eich portffolio ymhen chwe mis yn llai pwysig os ydych chi'n bwriadu ei fuddsoddi am 5, 10 neu 20 mlynedd.
Cymerwch risg pan mae gwobr dda i'w chael am wneud hynny. Mae buddsoddiad da yn fuddsoddiad lle mae'r wobr am gymryd y risg yn uwch na'r tebygolrwydd o golli arian.