Ymgynghorwyr Cynllunio Ariannol

Cynllunio Treth

Mae lleihau eich atebolrwydd treth yn rhan hanfodol o'n proses ymgynghorol ni. Er hynny, talu treth ar ein hincwm a'n cyfoeth yw'r pris rydym ni'n ei dalu am fyw mewn cymdeithas sifil, ond ni ddylai hynny olygu ein bod ti'n talu mwy na'r hyn sy'n deg. Waeth beth yw eich teimladau am sut mae eich arian treth yn cael ei wario, mae ffyrdd o hyd i chi leihau'r swm sy'n cael ei gymryd. Mae'n bwysig trin y canlynol fel crynodeb yn unig, a dylech geisio cyngor cyn gweithredu, oherwydd ni allwn ni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys ein gwefan.

Mae'n bwysig iawn sylweddoli bod osgoi talu treth yn drosedd gyfreithiol a gallwch gael eich anfon i'r carchar. Er hynny, mae arbed treth yn berffaith gyfreithiol ac, yn wir, fe ddywedodd John Maynard Keynes 'Arbed trethi yw'r unig weithgaredd deallusol sy'n dal i arwain at unrhyw fudd.'  John Maynard Keynes - Economegydd

Treth Etifeddu

Mae talu treth ar farwolaeth ar gyfoeth sydd wedi'i greu allan o incwm sydd eisoes wedi'i drethu yn un dreth yn rhy bell mae'n bur debyg i'r rhan fwyaf o bobl. Gyda chynllunio gofalus, does dim rheswm yn y byd i'ch stad chi dalu'r dreth hon. Ceir ffyrdd o wneud rhoddion a sicrhau mynediad o hyd at gyfalaf a / neu incwm. Ceir hefyd rai lwfansau y gallwch chi eu hawlio, ond mae'n rhaid i chi gadw cofnodion. Mae Cyllid y Wlad yn llym iawn erbyn hyn yn y maes hwn ac ni fydd yn caniatau didyniadau oni bai fod eich ysgutoriaid yn gallu dangos prawf.

Yr ased anoddaf i arbed Treth Etifeddu arno yw eich prif eiddo. Os byddwch yn ei roi yn rhodd i eraill ac yn dal i fyw yn yr eiddo, mae'n rhaid i chi dalu gwerth rhent llawn yr eiddo iddyn nhw, neu bydd yn cael ei ddosbarthu fel rhodd gyda budd amodol ac yn syrthio'n ôl i mewn i'ch stad. Wrth gwrs, os byddwch chi yn talu'r rhent, yna bydd yn dod o'ch incwm net chi a bydd y derbynnydd yn gorfod ei ddatgan hefyd a chael ei asesu ar gyfer treth incwm yn unol â hynny. Gwaetha'r modd, nid dyna'r diwedd chwaith, oherwydd mae wedyn yn dod yn eiddo buddsoddi ac yn syrthio'n rhan o faes treth enillion cyfalaf.

Treth Incwm

Gan fod gennym ni i gyd lwfans personol cyn bod rhaid talu treth, mae'n rhaid i chi wneud yn siwr bob amser eich bod yn trefnu eich materion fel eich bod yn sicrhau'r budd gorau o'r lwfans yma. Os ydych chi'n gweithio i chi eich hun, yna dylech chi bob amser gyflogi cyfrifydd ac fe ddylai ef allu eich cynghori chi ynghylch sut i leihau eich atebolrwydd treth. Os ydych chi'n derbyn incwm ar eich buddsoddiadau, yna efallai bod modd i chi ddefnyddio lwfans eich cymar os yw ef neu hi o dan y trothwy cychwynnol ar gyfer talu treth.

Treth Enillion Cyfalaf

Dyma dreth arall y gallwch chi leihau'r swm sydd rhaid i chi ei dalu gyda chynllunio gofalus. Nid ydych yn talu treth ar y £10,600 cyntaf (blwyddyn dreth 2011/12) o unrhyw gynnydd yn y gwerth rhwng y dyddiad pryd prynoch chi'r ased a dyddiad ei werthu. Ceir hefyd gostau y gallwch chi eu tynnu o'r cyfrifiad a hefyd rhaid cofio bod modd i chi ddefnyddio lwfans eich cymar hefyd os ydych chi'n berchen arno'n unigol. Er hynny, mae'n bwysig gwneud pethau yn y drefn gywir, neu byddwch yn talu mwy o dreth na sydd angen.
 

Gyda buddsoddiadau, mae'n hanfodol eich bod chi'n defnyddio'r lwfans bob blwyddyn oherwydd ni allwch ei gario ymlaen i flwyddyn dreth arall. Defnyddio'r lwfans neu ei golli fydd eich hanes chi.

[English Translation]