Byddwch yn yswirio eich car am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid i chi. Mae'n bur debyg eich bod yn yswirio eich cartref a'i gynnwys hefyd, am na fyddech yn gallu cael rhai newydd yn eu lle pe bai rhywbeth yn digwydd.
Wel, beth fyddai'n digwydd i'ch teulu chi pe na baech chi'n gallu darparu ar eu cyfer, naill ai oherwydd marwolaeth, salwch neu anabledd?
Diogelu'r rhai y byddai eu bywydau yn cael eu heffeithio gan eich marwolaeth neu eich salwch chi yw'r peth cyntaf y dylech chi ei wneud bob amser. Felly, os ydych chi eisiau diogelu eich morgais neu ddarparu arian ar gyfer eich teulu, gallwn ni helpu. Am ragor o fanylion, llenwch y ffurflen cysylltu â ni.
Gellir diogelu busnes mewn sawl ffordd. Efallai eich bod chi wedi cael benthyciad ac eisiau gwneud yn siwr eich bod chi'n gallu ei ad-dalu pe baech chi'n marw neu'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch tymor hir. Efallai fod gennych chi bobl allweddol yn eich busnes y byddai eu colli'n achosi caledi ariannol pe na baent yn gallu gweithio am yr un rhesymau. Efallai eich bod chi eisiau gwneud yn siwr y byddech chi'n cael taliad teg yn seiliedig ar eich cyfran chi o'r busnes pe na baech yn gallu gweithio byth eto.
Mae hefyd yn bosibl i'ch cyflogwr dalu am yswiriant bywyd ar eich rhan chi a hawlio rhyddhad treth ar y taliadau premiwm.
Gallwn helpu gyda'r meysydd hyn i gyd ac, yn bwysicach, byddwn yn strwythuro'r cymorth fel mai chi a'ch teulu fydd yn cael y budd, ac nid y dyn treth. Am ragor o fanylion, cofiwch gysylltu â ni.