Ymgynghorwyr Cynllunio Ariannol

Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Chynllunio Stad

Mae cael ewyllys dreth effeithlon yn hollbwysig yn y gwaith o gynllunio stad. Rydym yn credu bod hwn yn faes sy'n mynd ymhell tu hwnt i drosglwyddo cyfoeth eich oes i'ch buddiolwyr. Dylech ystyried eu sefyllfa hwy bob amser hefyd. Gydag oedran oedolaeth yn 18 yn awr, a ydynt yn gallu rheoli eu materion ariannol a hwythau mor ifanc? Beth os cânt ysgariad? Ydych chi am weld eich arian yn cael ei golli i'ch teulu yng nghyfraith ynteu'n aros yn eich teulu chi, ac o fudd felly i'ch disgynyddion chi? Ydych chi eisiau arbed talu treth etifeddu ddwywaith, unwaith pan ydych chi'n marw ac eto pan mae eich buddiolwyr yn marw.

Rhai pethau i'w cofio:

  • Os nad oes gennych chi ewyllys, yna dim ond y £250,000 cyntaf fydd eich cymar yn ei etifeddu
  • Os nad ydych chi'n briod, ni fydd gan eich partner unrhyw hawl pan fyddwch chi'n marw, waeth pa mor hir ydych chi wedi bod gyda'ch gilydd.
  • Os yw eich plant chi o dan 18 oed, bydd y llys amddiffyn yn gofalu am eu materion. Er hynny, unwaith maent yn cyrraedd 18 oed, maent yn rhoi'r arian iddynt i wneud fel y mynnant ag ef.
  • Os ydych chi angen gofal tymor hir, gall yr awdurdod lleol gymryd eich cartref chi i dalu amdano.

Ymddiriedolaethau

Bydd Ymddiriedolaethau yn rhoi rheolaeth i chi dros eich asedau ac yn neilltuo ac yn gwarchod eich stad rhag buddiolwyr barus a'r rhai sy'n hawlio'n eu herbyn, fel cyn gymar a chredydwyr. Ceir ffordd gymharol rwydd o drosglwyddo eich stad i'r rhai rydych am eu gweld yn ei derbyn neu, o roi hynny fel arall, ei chadw allan o ddwylo'r rhai nad ydych am eu gweld yn ei derbyn.

Dim ond rhai o'r materion rydym ni'n rhoi sylw iddyn nhw yw'r rhain ac os ydych chi eisiau gwybod sut gallwn ni eich helpu chi'n bersonol, llenwch y ffurflen ymholiad.

[English Translation]