Pan rydym yn chwilio am forgeisi, rydym yn chwilio'r farchnad gyfan, yn cynnwys benthycwyr sydd ond yn cynnig eu cynhyrchion yn uniongyrchol i'r cwsmer.
Mae nifer o ddarparwyr benthyciad, yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, yn cystadlu am eich busnes chi, ac maent i gyd yn cynnig amrywiaeth o gyfraddau llog, ffioedd cysylltiedig a chynigion eraill i ddenu benthycwyr. Er hynny, dim ond eu cynigion nhw eu hunain maen nhw'n gallu eu cynnig i chi ac os ydych chi eisiau gwybod beth sydd gan gystadleuydd i'w gynnig i chi, bydd rhaid i chi fynd drwy'r un broses eto.
Rydym ni'n gwbl annibynnol ar bob darparwr benthyciad ac felly'n gallu canfod yr ateb gorau i'ch amgylchiadau personol chi.
Oherwydd y newid cyson mewn cyfraddau ac yng ngofynion darparwyr benthyciad, rydym ni wedi penodi aelod arbennig o staff yn awr i gael hyd i forgeisi ar gyfer y tîm cyfan. Gan ddefnyddio'r meddalwedd diweddaraf, rydym yn chwilio drwy'r farchnad gyfan i ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf addas i chi.
Felly waeth beth yw eich gofynion chi, cofiwch ein ffônio ni.
Gall eich eiddo gael ei adfeddiannu os na fyddwch chi'n talu'r ad-daliadau ar eich morgais yn rheolaidd, neu ar unrhyw fenthyciad cysylltiedig ag ef.